Lesley Griffiths AC

Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth

Llywodraeth Cymru

 

 

29 Gorffennaf 2014

 

Annwyl Weinidog

 

Y Bil Trais ar sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru)

 

Yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 16 Gorffennaf, trafododd y Pwyllgor oblygiadau ariannol y Bil hwn.  Roedd gan yr Aelodau nifer o ymholiadau yr hoffem gael eich barn arnynt.

 

Mae Atodiad A yn cynnwys manylion am y meysydd yr hoffem eich ymateb arnynt.  Rwyf hefyd yn anfon copi o'r llythyr hwn at Christine Chapman AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol.

 

Yn gywir,

 

Jocelyn Davies AC

Cadeirydd


 

Atodiad A

 

Cyllid ychwanegol yng nghyllideb Llywodraeth Cymru

Yn y ddogfen naratif ar y Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2014-15 nodir cynnydd yn y dyraniad refeniw i'r cam gweithredu Cam-drin Domestig ar gyfer 2014-15 a 2015-16 o £0.3 miliwn i sicrhau bod y cyfeiriad strategol a'r dull o neilltuo cyllid yn y maes hwn yn seiliedig ar ddealltwriaeth gadarn o'r ddarpariaeth bresennol yn y maes, a bod y gwariant yn helpu i weithredu’r Bil arfaethedig.

O ystyried bod y costau ychwanegol i Lywodraeth Cymru ar gyfer bob blwyddyn o 2015-16 i 2017-18 yn amrywio rhwng £0.4 miliwn a £0.5 miliwn, byddai'n ddefnyddiol cael eglurder ynghylch a yw'r cyllid ychwanegol a ddyrannwyd yn ddigonol i fodloni gofynion y ddeddfwriaeth, yn enwedig o gofio y rhagwelir y bydd y broses o weithredu'r Ddeddf yn arwain at gynnydd pellach yn nifer y cleientiaid sy'n cael mynediad at wasanaethau cyhoeddus ac arbenigol, a chostau ychwanegol posibl y tu hwnt i'r rhai sydd wedi'u cynnwys yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol.

 

Costau sy'n gysylltiedig ag ad-drefnu Llywodraeth Leol

Mae'r costau ar gyfer Strategaethau Lleol yn y Bil yn seiliedig ar sefyllfa bresennol y 22 o awdurdodau lleol, a chânt eu rhannu rhwng awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol. Pe bai awdurdodau'n uno yn dilyn ymateb Llywodraeth Cymru i argymhellion Comisiwn Williams, gallai hyn gael dwy effaith bosibl. I ddechrau, gallai fod cynnydd tymor byr mewn costau gan y bydd yn ofynnol i'r awdurdodau newydd ddatblygu strategaethau newydd, a thros y tymor hir, mae'n bosibl y byddai llai o awdurdodau lleol, ac felly llai o awdurdodau unigol yn gorfod talu costau.

Byddai'n fuddiol gwybod a fyddai'n ofynnol i awdurdodau lleol sydd newydd uno gynhyrchu strategaethau newydd, a pha asesiad o'r costau hyn cyn 2017-18 sydd wedi'i wneud.

 

Canllawiau statudol

Mae nifer o feysydd lle gallai Llywodraeth Cymru ddymuno cyhoeddi canllawiau statudol ar ôl i'r Bil ddod i rym, er bod yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn nodi nad yw'n glir ar ba agweddau yn union y cyhoeddir y canllawiau. Felly, mae'r costau yn y rhan hon o'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn seiliedig ar enghraifft o ganllawiau drafft mewn nifer o feysydd allweddol a baratowyd gan Lywodraeth Cymru.

Byddai'n ddefnyddiol deall a yw Llywodraeth Cymru yn gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor ar y meysydd y mae'n bwriadu cyhoeddi canllawiau arnynt, ac a fydd unrhyw gostau ychwanegol yn gysylltiedig â hyn.

 

 

Costau cyfle y Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol a'r elfen Gofyn a Gweithredu

Y costau mwyaf yn y Bil yw'r costau cyfle i gyrff y sector cyhoeddus o £5.6 miliwn rhwng 2014-15 a 2017-18. Fel y nodwyd yn gynharach, nid yw'r rhain yn cynrychioli gwariant ariannol uniongyrchol gan unrhyw sefydliad ac felly ni fyddant yn cael eu talu gan Lywodraeth Cymru. Yn hytrach, maent yn gost cyfle yn seiliedig ar yr ymrwymiad amser sy'n gysylltiedig ag ymgymryd â'r hyfforddiant o dan y Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol neu'r elfen Gofyn a Gweithredu.

Nid yw'n glir o'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol beth yw cost cyfle peidio ag ymgymryd â'r hyfforddiant hwn, na faint o fudd sy'n deillio o ymgymryd â'r hyfforddiant.

Er mwyn asesu gwerth am arian y rhan hon o'r Bil, byddai o gymorth canfod a oes unrhyw asesiad wedi'i wneud yn y meysydd hyn, ac a yw Llywodraeth Cymru yn credu bod manteision yr hyfforddiant hwn yn gorbwyso'r costau cyfle.

 

Is-ddeddfwriaeth

Mae hefyd yn werth nodi bod y costau i Lywodraeth Cymru sy'n gysylltiedig â chefnogi'r broses o roi'r Strategaeth Genedlaethol ar waith yn cynnwys costau gweinyddol sy'n gysylltiedig â'r tair elfen arall o'r Bil. Mae'r rhain yn cynnwys datblygu canllawiau ar Strategaethau Lleol, y Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol a'r elfen Gofyn a Gweithredu, yn ogystal ag ymgysylltu â'r Cynghorydd Gweinidogol a rheoli ymgynghoriadau.

Felly, ymddengys yn debygol y bydd y costau sy'n gysylltiedig â'r pum pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth yn y Bil yn cael eu cwmpasu gan y maes hwn; fodd bynnag, byddai'n ddefnyddiol cael cadarnhad o hyn.